Strategaeth gwrth-hiliaeth i ddatblygu’r ddarpariaeth gwricwlaidd
This spotlight is currently only available in WelshMae’r cwricwlwm yn addysgu disgyblion am hanes a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn effeithiol. Mae grŵp disgyblion lleiafrifoedd ethnig wedi dylanwadu’n fuddiol ar arweinwyr a’r ddarpariaeth gwricwlaidd trwy godi ymwybyddiaeth staff o’u profiadau bywyd go iawn. Mae’r grŵp ffocws hwn wedi cyfrannu’n werthfawr at ddatblygu polisi gwrth-hiliaeth yr ysgol. Yn ogystal, mae sesiynau datblygiad proffesiynol a phrosiectau ymchwil ar gyfer staff wedi darparu cyfleoedd cadarn i staff ddyfnhau eu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth ac addasu’r ddarpariaeth gwricwlaidd o ganlyniad.Yn yr ysgol isaf, mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i astudio taith bywyd unigolion lleol sydd o gefndiroedd ethnig amrywiol. Yn eu sesiynau Cymraeg, mae disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o fraint pobl wyn, a phrofiadau a safbwyntiau cymunedau lleiafrifol trwy ddarllen testunau gwrth-hiliaeth. Mae disgyblion yn astudio cerddi o wahanol ddiwylliannau yn eu sesiynau Saesneg, tra bod yr adran ieithoedd rhyngwladol yn hyrwyddo amrywiaeth a pharch tuag at ddiwylliannau eraill drwy ddefnyddio adnoddau a straeon o wahanol wledydd. Rhoddir pwyslais ar rannu straeon cadarnhaol yn ogystal ac adrodd hanes gorthrwm pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gorffennol trwy wersi pynciau’r dyniaethau.