Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn - Estyn
Primary - Neath Port Talbot County Borough Council

Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn

Estyn logo on a blue background

Spotlights

1 of 2

Spotlights

Codi proffil y Gymraeg drwy weithgareddau cyfoes

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae arweinwyr a staff yn gosod blaenoriaeth glir ar ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion a’u teuluoedd o fewn cyd-destun ble nag ond ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gartrefi lle siaredir y Gymraeg yn gwbl naturiol. Trwy gynllunio ystod bwrpasol o weithgareddau creadigol, mae staff yn darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg mewn cyd-destunau diddorol. Mae’r Cyngor Cymraeg Cŵl yn cynhyrchu rhaglen radio fisol, ‘Tiwns y Tyle’, sy’n cael ei rhannu gyda chymuned yr ysgol ac yn ehangach. Yn ogystal, mae disgyblion Blwyddyn 5 yn arwain sesiynau anffurfiol yn y ‘Caffi Cymraeg’ i gefnogi rhieni a’u plant i ddysgu’r iaith, ac yn cynhyrchu adnoddau digidol pwrpasol lle maent yn modelu geirfa a phatrymau iaith defnyddiol yn rheolaidd. Mae hyn yn cryfhau ymgysylltiad rhieni â’r Gymraeg yn llwyddiannus ac yn cefnogi defnydd yr iaith y tu hwnt i’r ysgol yn fwriadus.

Details

Address

Llansawel Crescent
Briton Ferry
Castell Nedd
SA11 2UN