CIPLUN: Cefnogi datblygiad disyglbion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), bregus a’r rhai hynny sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY)
This spotlight is currently only available in WelshMae’r staff addysgu yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag ADY. Maent yn defnyddio ystod eang o wybodaeth gynhwysfawr i gynllunio profiadau dysgu sydd wedi eu teilwra’n ofalus. Mae trafodaethau proffesiynol rheolaidd ymysg staff yn cyflwyno darpariaeth gyson o ansawdd uchel. Mae timau o gynorthwywyr medrus yn arwain rhaglenni cefnogi effeithiol sy’n hyrwyddo lles a datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion, gan gynnwys y rhai sy’n dysgu SIY yn hynod lwyddiannus. Mae hyrwyddo lles disgyblion yn flaenoriaeth ganolog, gyda strategaethau sefydledig fel y Swyddog Cefnogi Teuluoedd ac uned faethu ‘Y Plas’, sy’n cynorthwyo disgyblion bregus a gofalwyr ifanc yn sensitif ac effeithiol. Yn ogystal, mae cynlluniau fel ‘Bwyd a Hwyl’ yn cefnogi teuluoedd dros wyliau’r ysgol, a’r ddarpariaeth drochi ieithyddol yn y ‘Pod’ yn cryfhau medrau’r disgyblion hynny sy’n dysgu SIY tra’n hybu eu hyder a’u gallu i integreiddio llwyddiannus i’r ysgol. Mae partneriaethau cryf â rhieni ac sefydliadau allanol yn cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y ddarpariaeth. O ganlyniad, mae bron bob disgybl sy’n derbyn cymorth yn gwneud cynnydd cryf iawn.