Ysgol Gymraeg Penalltau - Estyn
Primary - Caerphilly County Borough Council

Ysgol Gymraeg Penalltau

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Y ddarpariaeth ar gyfer datblygiad disgyblion ieuengaf

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion ieuengaf yn diwallu eu anghenion yn effeithiol ac yn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd da. Mae staff yn rhoi pwyslais cryf ar ddarparu profiadau dysgu cynnar sy’n hyrwyddo datblygiad cymdeithasol a chorfforol disgyblion ynghyd â’r medrau maent eu hangen i fod yn barod i ddysgu. Wrth i’r medrau hyn ddatblygu, darperir cyfleoedd cynyddol i’r disgyblion gyfrannu eu syniadau a dylanwadu ar eu gweithgareddau a’u profiadau yn yr ardaloedd dysgu. Mae hyn, yn ei dro, yn hybu eu brwdfrydedd a’u hymgysylltiad â dysgu. Mae staff yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn adeiladu’n effeithiol ar brofiadau blaenorol wrth i’r disgyblion symud o’r dosbarth Meithrin i’r camau nesaf yn eu dysgu. Mae staff yn darparu cyfleodd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ynghyd a chyfleoedd i’w cymhwyso ar draws y cwricwlwm. Mae ystod o weithgareddau ysgogol yn adeiladu ar fedrau dysgu blaenorol disgyblion yn effeithiol.

Details

Address

Ysgol Penalltau
Cwm Calon
Penallta
Ystrad Mynach
CF82 6AP