Datblygu medrau arwain disgyblion drwy waith y pwyllgorau ysgol.
This spotlight is currently only available in WelshMae staff yn darparu cyfleoedd hynod o fuddiol i ddisgyblion ymgymryd â rolau arwain ac i ddatblygu medrau sydd yn effeithio’n gadarnhaol ar fywyd a gwaith yr ysgol. Mae disgyblion yn rhan o ystod o bwyllgorau disgyblion sydd yn cyfrannu at y senedd ysgol. Maent yn caffael barn eraill ac yn arwain ar brosiectau cyffrous sydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ethos a diwylliant yr ysgol. Er enghraifft, trwy weithio ar brosiectau amrywiol, fel eu gwaith ar greu amgylchedd gynhwysol a chroesawgar i geiswyr lloches, mae disgyblion yn cyfrannu’n uniongyrchol at ethos a chyfeiriad strategol yr ysgol.