Defnyddio siarter staff i hwyluso’r weithdrefn gwerthuso perfformiad
This spotlight is currently only available in WelshMae’r siarter staff yn seiliedig ar werthoedd craidd fel proffesiynoldeb, parch a charedigrwydd. Mae staff yn ymrwymo i gynnal y safonau uchaf ym mhopeth a wnânt. Wedi’u harwain gan y gwerthoedd hyn, mae arweinwyr wedi creu amgylchedd diogel, cefnogol a llwyddiannus i bob aelod o gymuned yr ysgol. Y siarter hwn yw sail gweithdrefn gwerthuso perfformiad staff ac mae’n gosod sylfaen gadarn i’w gwaith. Caiff y gefnogaeth i staff ei deilwra’n briodol a, lle bo angen, cânt eu mentora a’u cymell i wella’u harferion proffesiynol. Rhoddir pwyslais buddiol ar yr arfer yn hytrach na’r person.