Datblygu brwdfrydedd disgyblion sy’n empathetig
This spotlight is currently only available in WelshMewn sesiynau Cloriau Clebran a Chylchoedd Croeso effeithiol, mae’r ysgol wedi sefydlu diwylliant lle maent yn datblygu unigolion sy’n dangos parch aeddfed at eraill. Yn ogystal, maent yn annog disgyblion i weld eu hunain mewn drych er mwyn adnabod a mewnoli moesau sydd yn eu caniatáu i ymdrin ag eraill gyda chwrteisi a pharch. O ganlyniad, mae’r ymagweddau yma wedi eu gwreiddio’n gadarn yn enaid y disgyblion. Mae’n ymdreiddio i bob elfen o gwricwlwm yr ysgol ac yn effeithio’n gadarnhaol ar frwdfrydedd y disgyblion a’u parodrwydd at ddysgu.