Ysgol Pen Barras - Estyn
Primary - Denbighshire County Council

Ysgol Pen Barras

Estyn logo on a blue background

Spotlights

Spotlight

Meithrin balchder cynhenid disgyblion at eu hysgol, eu bro a Chymru trwy’r celfyddydau mynegiannol Trwy ystod o brofiadau gwerthfawr sy’n cael eu darparu gan staff, mae disgyblion yn cryfhau eu hymdeimlad o berthyn fel aelodau dawnus ac ymroddedig o gymuned Gymreig yr ysgol, yr ardal leol ac yn genedlaethol yng Nghymru. Mae’r profiadau o gymryd rhan a chystadlu mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a chystadlaethau yn cefnogi disgyblion i feithrin eu doniau cerddorol a pherfformio i safon uchel. Maent yn ymroi i gydweithio fel aelodau brwd o dîm, yn datblygu dyfalbarhad wrth ymarfer ac yn magu hyder tra’n camu ar lwyfannau amrywiol, er enghraifft Gŵyl Top Dre ac eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae’r profiadau hyn yn darparu cyfleoedd cyson i ddisgyblion fynegi eu hunain yn hyderus ac i arddangos agweddau cadarnhaol at eu hunain a’u dysgu. Yn ogystal, trwy trwy’r cyfleoedd niferus, mae’r disgyblion yn datblygu medrau llafar hynod fuddiol, yn gwella agweddau personol a chymdeithasol pwysig, yn meithrin balchder at eu hunaniaeth diwylliannol ac yn cyfrannu’n hynod werthfawr at eu profiadau creadigol a bywyd yn ehangach. Yn ogystal, mae’n dwysáu eu gwybodaeth a’u gwerthfawrogiad o hanes, diwylliant ac etifeddiaeth Cymru yn hynod lwyddiannus.

This spotlight is currently only available in Welsh

NULL

Details

Address

Ffordd Glasdir
Ruthun
Denbighshire
LL15 1QQ