Dylanwad ac effaith llais y disgybl yn Ysgol y Moelwyn
This spotlight is currently only available in WelshCiplun - Dylanwad ac effaith llais y disgyblMae dylanwad ac effaith llais y disgybl yn elfen gref o waith yr ysgol, ac mae’n cael ei ddefnyddio i lywio pob agwedd o’r ddarpariaeth. Mae cynrychiolaeth eang o ddisgyblion yn ffurfio aelodaeth y fforymau amrywiol a’r cyngor ysgol. Maent yn unigolion huawdl, parchus a hyderus, sy’n arddangos medrau arwain aeddfed, ac yn dylanwadu’n llwyddiannus ar brofiadau eu cyd-ddisgyblion. Er enghraifft:•Mae’r fforwm cydraddoldeb wedi cyfrannu’n effeithiol at hyrwyddo tegwch, parch a chynhwysiant drwy drefnu gweithgareddau fel cystadleuaeth ‘Cariad nid Casineb’ ar Ddiwrnod Santes Dwynwen. Mae hyn yn codi ymwybyddiaeth disgyblion o bwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol a chydraddoldeb.•Mae’r fforwm dysgu ac addysgu wedi dylanwadu ar newid i drefniadau asesu.• Yn dilyn cyfnod o ymchwil ac ymgynghori, mae gwaith y cyngor wedi sicrhau gwelliannau i'r amgylchedd drwy gyflwyno meinciau newydd o amgylch yr ysgol. Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion ymwybyddiaeth gadarn o effaith gwaith y fforymau a’r cyngor o ganlyniad i strwythurau cyfathrebu clir sy’n cynnwys trafodaethau ac adborth wythnosol.