Ysgol Bro Llifon - Estyn
Primary - Gwynedd Council

Ysgol Bro Llifon

Estyn logo on a blue background

Inspections

Spotlights

1 of 2

Spotlights

Grymuso medrau arweinyddiaeth staff i yrru gwelliant parhaus mewn diwylliant o hunanwella

This spotlight is currently only available in Welsh

Mae’r pennaeth wedi sefydlu dull creadigol a chynhwysfawr o gynllunio a darparu dysgu proffesiynol gwerthfawr sy’n cyd-fynd yn agos â’u blaenoriaethau datblygu ysgol. Mae systemau arweinyddiaeth ddosbarthedig hynod effeithiol wedi’u gwreiddio ar draws yr ysgol, gyda rolau arwain clir wedi’u dyrannu’n strategol yn unol â blaenoriaethau datblygu’r ysgol. Mae cefnogaeth fuddiol i staff ymchwilio ac, o ganlyniad, maent yn arloesi gyda strategaethau ac addysgeg newydd sy’n cael effaith gadarnhaol ar gynnydd a lles disgyblion. Er enghraifft, drwy ymchwil a dysgu proffesiynol, mae staff wedi ymchwilio a datblygu ymagwedd gytûn at addysgu’r pum hyfedredd mathemategol. Trwy werthuso effaith eu gwaith yn rheolaidd, mae staff yn addasu eu harfer yn fedrus mewn ymateb i ganfyddiadau. Mae hyn yn cyfrannu’n gadarn at welliannau cynaliadwy yn ansawdd yr addysgu, ehangder y ddarpariaeth a chynnydd disgyblion dros amser.

Details

Address

Groeslon
Caernarfon
Gwynedd
LL54 7DT