Cydweithio effeithiol â’r gymuned leol i gyfoethogi’r ddarpariaeth a datblygu gwerthfawrogiad disgyblion o’u bro
This spotlight is currently only available in WelshMae gan yr ysgol gysylltiadau hynod gryf â’r gymuned leol ble mae aelodau o’r gymuned yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i rannu eu harbenigeddau a’u profiadau gyda disgyblion. Enghraifft nodedig o hyn yw’r cydweithio rhwng yr ysgol a phentref Llangristiolus wrth gynllunio a threfnu ‘Gig Henblas’ yn flynyddol. Mae disgyblion yn cydweithio’n agos gyda busnesau a sefydliadau lleol i godi arian a threfnu digwyddiad cymunedol llwyddiannus ar dir yr ysgol.Fel rhan o’r gwaith hwn, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau mentergarwch pwrpasol sy’n datblygu medrau arweinyddiaeth, llythrennedd, rhifedd a digidol y disgyblion yn effeithiol. Mae’r disgyblion yn cymryd cyfrifoldeb mewn ystod eang o dasgau, gan gynnwys cyfathrebu â noddwyr, gwerthu tocynnau, trefnu adnoddau a rheoli cyllideb. Mae’r profiadau hyn yn llwyddiannus wrth ddatblygu hyder, annibyniaeth a dealltwriaeth disgyblion o bwysigrwydd cyfrannu’n weithredol at eu cymuned leol.