Teilwra cynnwys yn greadigol
Un o fanteision Cymraeg Gwaith yw’r ffaith bod modd i ddarparwyr fod yn greadigol wrth deilwra darpariaeth. Yn dilyn cais gan y Ganolfan Genedlaethol cynigiodd Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin gyfres o bump sesiwn i bobl ifainc oedd yn dilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru Plws trwy’r darparwr hyfforddiant COPA. Bwriad y rhaglen oedd ysbrydoli’r bobl ifainc i ddeall y posibiliadau sydd ar gael iddynt yng Nghymru a gwerth y Gymraeg yn y byd swyddi. Cynhaliwyd pump dosbarth gyda phedwar tiwtor ar bedwar safle gwahanol ac yn hytrach na dysgu trwy gyfrwng cwrs lyfr Cymraeg yn unig crëwyd deunyddiau dysgu newydd a gwahoddwyd siaradwyr allanol i annerch y dysgwyr. Roedd y rheiny yn cynnwys artist llawrydd, cwmni cynhyrchu bwydydd adnabyddus o Gymru a gwneuthurwr ffilmiau o’r U.D.A sy’n dewis byw a gweithio yng Nghymru. Roedd y bobl ifainc wedi ymateb yn frwdfrydig i’r arlwy creadigol ac wedi dod i ddeall yn well yr hyn sydd ar gael iddynt yng Nghymru a sut gall y Gymraeg agor drysau yn y byd gwaith.