Sut cynlluniodd Ysgol Gynradd Adamsdown gwricwlwm i ddiwallu anghenion ei dysgwyr.

Arfer effeithiol

Adamsdown Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Mae Ysgol Gynradd Adamsdown wedi’i lleoli yn ardal Adamsdown yng nghanol dinas Caerdydd. Mae’r mwyafrif helaeth o’r dalgylch o fewn y 10% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae llawer o blant yn wynebu rhwystrau rhag dysgu ar ffurf Saesneg fel iaith ychwanegol (72%), anghenion dysgu ychwanegol (9%), yn derbyn prydau ysgol am ddim (65%), problemau amddiffyn plant, tai gwael, problemau iechyd a phresenoldeb gwael.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2015, ar ôl cael ei rhoi mewn categori ‘angen gwelliant sylweddol’ Estyn ac ar ôl cyhoeddi ‘Dyfodol Llwyddiannus’ Donaldson, aeth yr ysgol ar daith i gynllunio arlwy cwricwlwm cadarn sy’n addas at ei ddiben yn yr ysgol. Roedd pob un o’r rhanddeiliaid yn rhan o broses i werthuso, arloesi a myfyrio i greu gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm difyr sy’n adlewyrchu anghenion amrywiol disgyblion yn gywir. 

I ddechrau, bu’r ysgol yn myfyrio ar ei chyd-destun presennol, y cwricwlwm ac anghenion disgyblion. Mae pedwar diben wrth wraidd yr ysgol, a buont yn canolbwyntio ar bedair elfen allweddol, sef: 

  1. Lles 
  2. Addysgu a dysgu (addasu addysgeg) 
  3. Profiadau difyr ac ystyrlon 
  4. Iaith a chyfathrebu 

Gyda’r wybodaeth hon, roedd yr ysgol yn gallu dechrau ar gam nesaf cynllun a strwythur y cwricwlwm.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Daeth yr ysgol i’r casgliad nad oedd strwythur clasurol dosbarthiadau grwpiau blwyddyn yn cyd-fynd â’u gweledigaeth ar gyfer addysgu a dysgu effeithiol. Ffurfiodd yr ysgol ‘system dosbarthiadau clwstwr’ i’w galluogi i addasu addysgeg a’r amgylchedd dysgu i gefnogi dysgu effeithiol i bawb. Ymgysylltodd pob un o’r staff â dysgu proffesiynol, cydweithio, ymholi a rhannu arfer dda i ddatblygu dealltwriaeth gref o addysgeg effeithiol. 

Ar sail ymchwil, dyfeisiodd yr ysgol strwythur blynyddol dros gylch dwy flynedd i gyflwyno cyd-destunau dilys a difyr, a chynnig profiadau ystyrlon i ddisgyblion gymhwyso’u gwybodaeth a’u medrau yn bwrpasol. Mae’r cyd-destunau’n sicrhau cyfleoedd i ddatblygu medrau disgyblion yn raddol trwy gyd-destunau cynyddol soffistigedig. 

Cynlluniodd staff strwythur pedair rhan i gyflwyno’u prif gyd-destunau, sef: 

  1. Y cam cychwyn – profiad cynlluniedig i drochi disgyblion, tanio diddordeb, casglu gwybodaeth flaenorol a rhoi gwybod i ddisgyblion am ddiben y dysgu. 
  2. Y cam caffael – addysgu medrau, cysyniadau a gwybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer y cyfnod nesaf. 
  3. Y cam cymhwyso – galluogi disgyblion i gyfuno a chymhwyso’r wybodaeth a’r medrau y maent wedi’u dysgu mewn ffordd bwrpasol ac ystyrlon. 
  4. Y cam myfyrio – dyfnhau dealltwriaeth am eu dysgu eu hunain a rhoi cyfle i fyfyrio ar ddysgu, llwyddiannau a’r camau nesaf. 

Caiff disgyblion eu cynnwys yn llawn mewn creu a gwerthuso’u profiadau dysgu ym mhob cyfnod. Mae ‘Globie’, sef cymeriad a ddyluniwyd gan ddisgyblion i gynrychioli a chynorthwyo dysgwyr ar drywydd y pedwar diben, yn amlwg ym mhob cyfnod dysgu a myfyrio. Mae staff yn cyflenwi’r cylch blynyddol â chyd-destunau bach, calendr digwyddiadau, cyfleoedd cyfoethogi a chysylltiadau â’r gymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol wedi rhoi system newydd arloesol ar waith ar gyfer addysgu a dysgu tra’n creu arlwy cwricwlwm yn llwyddiannus hefyd ar gyfer dysgwyr, sy’n sicrhau bod bron pob un o’r dysgwyr yn gwneud cynnydd da o’u man cychwyn. 

Mae disgyblion yn dysgu trwy ystod o brofiadau ystyrlon, gan eu galluogi i gymhwyso’r medrau a ddysgwyd yn bwrpasol. Mae natur raddol y cwricwlwm yn galluogi disgyblion i adeiladu ar ddysgu blaenorol ym mhob maes dysgu, gan gynnwys eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannu gyda chonsortia lleol ac ysgolion clwstwr. 


Other resources from this provider

Sut cynlluniodd Ysgol Gynradd Adamsdown gwricwlwm i ddiwallu anghenion ei dysgwyr. - Estyn