Menter ‘Strade yn y Gymuned’
Nodwedd werthfawr o waith yr ysgol yw’r fenter ‘Strade yn y Gymuned’. Mae’r fenter yn defnyddio ystod eang o ddata i adnabod anghenion disgyblion unigol ac i ddarparu cymorth pwrpasol. O ganlyniad, mae’n gwella lles ac ymgysylltiad disgyblion â dysgu ac yn eu cefnogi’n effeithiol i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â thlodi ac anawsterau cymdeithasol ac emosiynol. Mae’r ysgol yn gweithio ar y cyd gyda nifer helaeth o wasanaethau, mudiadau a busnesau lleol i dargedu disgyblion penodol gydag ymyraethau priodol. Er enghraifft, mae disgyblion yn cydweithio gyda chartref gofal lleol ac yn datblygu eu hyder trwy gyfathrebu a gofalu am y preswylwyr. Rhaglen arall yw ‘Breaking Bread’, prosiect ar y cyd gyda mudiad cymunedol yng nghanol tref Llanelli. Mae grŵp o ddisgyblion o aelwydydd ag incwm isel yn dysgu sgiliau coginio ochr yn ochr gyda phobl o’r gymuned. Gwelwyd gwelliant sylweddol ym mhresenoldeb ac agweddau at ddysgu y grŵp yma o ddisgyblion.