Meithrin medrau bywyd a lles disgyblion trwy sesiynau ‘Gwener Gwych’ - Estyn

Meithrin medrau bywyd a lles disgyblion trwy sesiynau ‘Gwener Gwych’

Spotlight

Mae lles disgyblion a staff wrth galon gwaith yr ysgol, ac mae hyn yn treiddio drwy bob agwedd ar ei bywyd a’i gwaith. Mae staff a’r pwyllgorau disgyblion wedi cydweithio’n agos i sefydlu sesiynau ‘Gwener Gwych’ fuddiol sy’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu medrau bywyd a chryfhau lles ar draws cymuned yr ysgol. Mae arweinwyr yn manteisio’n fedrus ar arbenigedd staff, rhieni, ac aelodau o’r corff llywodraethol i gyfoethogi’r ddarpariaeth. Trwy ystod eang o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys sesiynau cymorth cyntaf, coginio a gofalu am anifeiliaid, mae disgyblion o wahanol oedrannau yn cydweithio’n llwyddiannus ac yn datblygu eu hannibyniaeth, eu medrau cymdeithasol a’u hyder yn fwriadus. Mae hyn, yn ei dro, yn cefnogi disgyblion i ddatblygu medrau bywyd pwysig trwy ymgymryd â phrofiadau newydd ac i feithrin perthnasoedd cadarnhaol.