Marchnata manteision a chynnig canllawiau - Estyn

Marchnata manteision a chynnig canllawiau

Spotlight

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd wedi datblygu pecyn gwybodaeth defnyddiol i ddarpar gleientiaid. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am wefannau defnyddiol yn ogystal â manteision dewis dysgu Cymraeg i staff a syniadau am sut gall sefydliadau gyflwyno mwy o Gymraeg yn eu sefydliadau gan gynnwys methodoleg newid ymddygiad iaith. Mae hyn oll yn cynnig arweiniad clir i sefydliadau sylweddoli bod angen iddynt wneud mwy na chynnig gwersi Cymraeg os ydynt am gynyddu defnydd o’r iaith yn fewnol ac yn allanol.