Hyrwyddo medrau disgyblion ac ehangu gorwelion trwy brofiadau cyfoes a Chymreig
Spotlight
Mae ethos cryf o Gymreictod yn nodwedd amlwg o’r cwricwlwm ac yn plethu’n naturiol drwy fywyd a gwaith yr ysgol. Trwy fentrau creadigol gwerth chweil, fel ‘Seleb yn y Sied’, caiff y disgyblion hŷn gyfleoedd gwerthfawr i feithrin eu medrau siarad Cymraeg yn gyson wrth gyfweld enwogion adnabyddus ym myd y celfyddydau. Mae hyn yn codi eu hymwybyddiaeth o ddiwylliant cyfoes Cymru ac yn ehangu eu dyheadau gyrfaol yn llwyddiannus. Yn ogystal, mae cyfraniad disgyblion at gynhyrchu ‘Newyddion Ysgol Llanfairpwll’ yn atgyfnerthu amrediad eang o fedrau yn effeithiol, gan gynnwys eu medrau llythrennedd, digidol a chydweithio, ac yn darparu hyder cynyddol i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.