Hyrwyddo datblygiad proffesiynol staff addysgu
Mae arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cryf o ddysgu proffesiynol a chydweithio. Mae staff yn cydweithio’n hynod effeithiol o fewn yr ysgol wrth rannu arfer dda yn dilyn ymchwil proffesiynol. Maent yn aml yn rhaeadru yr arfer orau mewn cyfarfodydd ac yn barod i ymgymryd â strategaethau a dulliau newydd o weithio. Mae athrawon yn hyfforddi ac yn cefnogi staff mewn ysgolion eraill er budd disgyblion. Er enghraifft, maen nhw’n uwch-sgilio staff mewn ysgolion prif ffrwd ar y dulliau mwyaf effeithiol o gefnogi disgyblion sy’n rhannu eu hamser rhwng Hafod Lon ac ysgol brif ffrwd.Yn ogystal, mae’r staff yn aml yn cefnogi’r awdurdod lleol i gynnal sesiynau rhannu gwybodaeth a’r arfer orau mewn addysg disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol i ysgolion y sir.