Dylanwad effeithiol disgyblion ar fywyd a gwaith yr ysgol - Estyn

Dylanwad effeithiol disgyblion ar fywyd a gwaith yr ysgol

Spotlight

Mae dylanwad disgyblion ar ystod o agweddau yr ysgol yn gryfder amlwg ac wedi’i wreiddio dros amser. Mae disgyblion yn weithredol yn arwain sesiynau cyd-addoli a chynnal gweithgareddau iechyd a lles gyda’u cyfoedion ar draws yr ysgol. O oedran ifanc, maent yn arwain y dysgu trwy gynnig syniadau ar gyfer themâu a gweithgareddau dysgu. Yn yr arfer orau, mae’r gweithgareddau yn dilyn thema ‘Trafferthion Llanilar’ yn cael effaith cadarnhaol ar fywydau trigolion yr ardal leol. Mae grwpiau disgyblion ‘Lleisiau Ilar’, yn cyfarfod yn gydwybodol ac yn dylanwadu ar fywyd holl ddisgyblion yr ysgol yn fedrus. Mae ymrwymiad aelodau grŵp ‘Ffit Ilar’ i arwain sesiynau meddwlgarwch a gweledigaeth y ‘Pencampwyr’ i sefydlu gardd synhwyraidd er lles disgyblion yn esiamplau da o’u gwaith.