Disgyblion hŷn yn meithrin annibyniaeth yn eu medrau digidol
Spotlight
Mae athrawon yn defnyddio adborth amserol yn effeithiol i gefnogi disgyblion i wirio, gwerthuso a gwella eu gwaith yn barhaus. O ganlyniad, mae’r disgyblion hŷn yn cymryd perchnogaeth gynyddol o’u dysgu ac yn datblygu eu hannibyniaeth yn fwriadus wrth ddefnyddio eu medrau digidol. Wrth fireinio’r medrau hyn, mae’r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu medrau digidol manwl y disgyblion. Er enghraifft, maent yn defnyddio’u medrau i ddadansoddi eu gwaith dylunio digidol, gan ystyried ystod eang o nodweddion, cyn cymhwyso’r hyn y maent wedi ei ddysgu i wella eu gwaith eu hunain. Mae hyn, yn ei dro, yn cefnogi llawer i gynhyrchu gwaith estynedig a chreadigol o safon uchel.