Dathlu creadigrwydd plant wrth iddynt greu marciau.
Mae’r ymarferwyr yn darparu cyfleoedd cyson i’r plant ddatblygu eu medrau creu marciau. Ar draws holl ardaloedd y ddarpariaeth mae offer ar gael i’r plant greu nodiadau a lluniau er mwyn mynegi eu syniadau a’u creadigrwydd. Er enghraifft, ar ôl iddynt fod yn chwilio am drychfilod yng ngardd y lleoliad, roedd y plant yn awyddus i greu darluniau ac ysgrifennu am bryfaid cop roeddent wedi bod yn edrych arnynt gyda chwyddwydrau. Mae’r gwaith yn datblygu medrau modur man y plant yn llwyddiannus. Yn ogystal, mae’r ymarferwyr yn cofnodi straeon gwreiddiol mae’r plant yn eu creu ar lafar. Mae’r lleoliad yn gosod pwyslais ar ddathlu llwyddiannau’r plant, ac mae dathlu straeon y plant yn rhan mawr o hyn. Mae’r gwaith yn hyrwyddo pleser mewn darllen ac yn datblygu medrau ysgrifennu cynnar y plant yn llwyddiannus.