Datblygu addysgu a dysgu drwy ymchwil weithredol
Spotlight
Mae arweinwyr yn ymgymryd yn rhagweithiol ag ymchwil gweithredol er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o addysgu a dysgu effeithiol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y dulliau o gyflwyno’r cwricwlwm, er enghraifft wrth ddwysáu medrau mathemategol a rhifedd disgyblion. Mae dealltwriaeth gadarn staff wrth ddarparu gweithgareddau dilynol yn cefnogi disgyblion i wneud cynnydd parhaus yn llwyddiannus. Mae disgyblion yn adalw gwybodaeth a medrau a ddysgwyd yn flaenorol, ac yn eu cymhwyso’n llwyddiannus mewn cyd-destunau newydd yn effeithiol.