Darparu cwricwlwm ysgogol sy’n gwneud defnydd effeithiol o’r ardal allanol.
Spotlight
Mae staff wedi datblygu’r ardal allanol mewn modd creadigol a llwyddiannus iawn i gyfoethogi’r ddarpariaeth a hybu agweddau cadarnhaol disgyblion at eu dysgu. Drwy cyfleodd datblygiad proffesiynol penodol a chydweithio rheolaidd ymysg y staff, maent wedi cynllunio dilyniant hynod effeithiol o weithgareddau dysgu i ddisgyblion gymhwyso eu medrau llythrennedd, creadigol a rhifedd. Er enghraifft, mae disgyblion yn dysgu medrau gwaith coed i greu ceir allan o bren, yn plannu ffrwythau a llysiau i’w fwyta ac yn creu bwyd ar gyfer yr adar allan o ddeunyddiau naturiol amgylchedd yr ysgol. Mae hyn yn meithrin chwilfrydedd a creadigrwydd disgyblion ac yn eu hannog i ddyfalbarhau â’u tasgau yn yr awyr agored.