Cytundeb clir ar ddatblygu’r iaith - Estyn

Cytundeb clir ar ddatblygu’r iaith

Spotlight

Mae Dysgu Cymraeg Gwent a Cyngor Dinas Casnewydd wedi llunio cytundeb Cymraeg Gwaith sy’n gosod yn glir y disgwyliadau ar y darparwr, y cyngor a’r dysgwyr a’u rheolwyr llinell. Mae pob dysgwr yn ymrwymo i fynychu sesiynau wythnosol ac mae’r cyngor yn ymrwymo i ryddhau’r staff hyn i fynychu’r sesiynau rhad ac am ddim hyn fel rhan o’u horiau gwaith arferol. Mae’r tiwtor Cymraeg Gwaith, y dysgwyr a’u rheolwyr llinell yn cyd-lofnodi’r cytundeb mewn proses dryloyw sydd yn cael effaith cadarnhaol ar allbynnau’r rhaglen. Mae rheolwyr llinell y dysgwyr yn trafod cynnydd y dysgwyr yn ystod eu cyfarfodydd rheoli arferol ac mae hyn yn arwain at gynllunio ieithyddol cydlynus.