Cysylltu perthnasedd ac effaith - Estyn

Cysylltu perthnasedd ac effaith

Spotlight

Ers tymor yr hydref 2024, mae swyddog datblygu gweithle Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe wedi cynnal gwersi gyda staff marchnata’r rhanbarth rygbi Y Gweilch yn Stadiwm Abertawe. Treuliodd y tiwtor amser yn swyddfa’r tîm er mwyn arsylwi ac asesu’r math o iaith oedd ei hangen ar y darpar ddysgwyr. Mae cynnwys y cwrs mynediad wedi cael ei deilwra’n fedrus i gynnwys cystrawennau, geirfa ac adnoddau sain a fideo sy’n berthnasol i anghenion y grŵp. Er enghraifft, addasir clipiau fideo o gyfweliadau gyda chwaraewyr ar raglenni rygbi S4C i greu adnoddau ystyrlon a real i’r grŵp. Mae effaith yr arlwy creadigol i’w weld ar gynnydd yn nefnydd o’r iaith yng nghyfathrebiadau’r clwb, yn enwedig ar eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Cynhyrchwyd clipiau hwyliog o chwaraewyr Cymraeg eu hiaith yn dysgu geiriau i gyd-chwaraewyr di-Gymraeg. Mae hyn wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan gefnogwyr ac yn ei dro wedi arwain at gynnig gwersi blasu am ddim i gefnogwyr y rhanbarth.