Cydweithio effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref - Estyn

Cydweithio effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref

Spotlight

Mae arweinwyr a staff yn cydweithio’n hynod effeithiol er mwyn cynnal lles disgyblion. Maent yn canolbwyntio’n barhaus ar sicrhau fod disgyblion yn mynychu’r ysgol yn ddyddiol. Mae rôl y swyddog lles, y disgyblion a’r teuluoedd yn allweddol wrth sicrhau fod yr amrediad o ymyraethau yn cael y dylanwad gorau posibl ar gynnal lles, ac adeiladu hyder disgyblion fel eu bod yn teimlo’n barod i ddysgu. Gyda chefnogaeth yr arweinwyr a’r staff, mae’r swyddog lles yn ymgysylltu’n rheolaidd gyda theuluoedd gan gydlynu’r gefnogaeth amrywiol sydd ar gael iddynt. Yn ogystal, mae’n cyfeirio rhieni at amrediad o wasanaethau, yn ôl yr angen, er mwyn ymateb i unrhyw fater sy’n dylanwadu ar bresenoldeb, hyder, a hapusrwydd disgyblion yn yr ysgol. Mae hyn yn hynod effeithiol wrth gefnogi disgyblion sy’n cael eu heffeithio gan dlodi neu rhai sy’n wynebu heriau cymdeithasol, i ymgysylltu’n llawn gyda’u dysgu.