Codi hyder yn y sector iechyd - Estyn

Codi hyder yn y sector iechyd

Spotlight

Drwy holiaduron a sgyrsiau unigol mae tiwtoriaid codi hyder o fewn y byrddau iechyd yn dod i ddeall pam nad yw aelodau staff yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith. Cynigir sesiynau mentora un i un a chymorth wedi’u teilwra i’w hanghenion ieithyddol. Cynigir cyfleoedd hefyd i ymarfer siarad gyda chydweithwyr eraill a threfnir cyrsiau preswyl am ddim yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd a gofal sy’n gallu siarad ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi. Erbyn hyn mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru, yn ogystal â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a thiwtor Cymraeg Gwaith llawn amser yn gweithio gyda staff. Mae hyn yn cyfrannu yn at wireddu polisi Llywodraeth Cymru HYPERLINK “https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-07/mwy-na-geiriau-cynllun-gweithredu-2022-2027.pdf”Mwy na Geiriau sy’n cydnabod yr angen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau trwy ddewis iaith siaradwyr Cymraeg ar adeg pan maent yn teimlo fwyaf bregus ac emosiynol fel arfer.