Ciplun – cymhwyso medrau disgyblion trwy weithgareddau gwyddoniaeth - Estyn

Ciplun – cymhwyso medrau disgyblion trwy weithgareddau gwyddoniaeth

Spotlight

Mae arweinwyr wedi rhannu gweledigaeth glir ar gyfer addysgeg sy’n cyd-fynd ag egwyddorion cwricwlwm i Gymru. Ar draws yr ysgol, mae athrawon yn darparu gweithgareddau ymarferol sy’n hybu diddordeb a chwilfrydedd disgyblion am wyddoniaeth. Maent yn cynllunio’r ddarpariaeth yn ofalus er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau hyn yn cynnig cyfleoedd bwriadus i ddisgyblion gymhwyso medrau gwahanol mewn ystod ddiddorol o weithgareddau. Mae disgyblion Blwyddyn 2, er enghraifft, yn cymhwyso medrau creadigol wrth greu model o ymennydd fel rhan o weithgaredd sy’n hybu agweddau cadarnhaol at iechyd. Wrth astudio mamaliaid gwahanol, mae disgyblion Blwyddyn 3 yn archwilio penglog gan gymhwyso medrau siarad a gwrando Cymraeg yn hynod lwyddiannus wrth ei disgrifio. Ar frig yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymgolli’n llwyr yn eu dysgu ac yn datblygu fel dysgwyr annibynnol yn fedrus wrth gymhwyso medrau digidol a llafaredd i greu animeiddiad am sgerbydau bodau dynol. Mae gallu’r disgyblion hŷn i adalw terminoleg gwyddonol yn nodwedd gref o’r ddarpariaeth. Mae hyn oll yn deillio o weledigaeth arweinwyr ar gyfer yr addysgu, sy’n seiliedig ar ddarparu gweithgareddau dysgu ysgogol, ynghyd â disgwyliadau uchel o ddatblygiad medrau disgyblion.