Ciplun - cydweithio gyda’r gymuned i gefnogi lles disgyblion - Estyn

Ciplun – cydweithio gyda’r gymuned i gefnogi lles disgyblion

Spotlight

Adnabu arweinwyr yr angen i sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn derbyn gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel dros wyliau’r haf. Trefnodd staff farchnad iechyd a lles teuluol gwerthfawr o’r enw ‘Llwybrau Lles’. Roedd hyn yn gyfle i deuluoedd ymweld â stondinau gwybodaeth oedd yn cael eu rhedeg gan ddisgyblion a staff ynghyd ag ystod o bartneriaid allanol. Rhoddwyd pwyslais ar ddiddordebau’r disgyblion. Er enghraifft, darparwyd gwybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ar y traeth, ar-lein ac mewn cyd-destunau amaethyddol. Yn ogystal, cyflwynwyd gwybodaeth werthfawr am fwyta’n iach, iechyd meddwl ac urddas mislif i helpu disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’u iechyd a’u lles personol dros gyfnod y gwyliau.