Ciplun: Cydweithio effeithiol ar draws y ffederasiwn i ddatblygu medrau digidol disgyblion - Estyn

Ciplun: Cydweithio effeithiol ar draws y ffederasiwn i ddatblygu medrau digidol disgyblion

Spotlight

Mae cydweithio cryf ar draws y ffederasiwn yn elfen ganolog o lwyddiant y ddarpariaeth digidol. Mae athrawon yn cyd-gynllunio’n ofalus i ddarparu cyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion gydweithio er mwyn datblygu eu medrau digidol yn llwyddiannus. Er enghraifft, fel rhan o waith thema diweddar, trefnodd yr athrawon gyfarfodydd ar-lein er mwyn cefnogi disgyblion o’r ddwy ysgol i gydweithio i ddylunio a chreu gwefan gynhwysfawr am wledydd y byd. Yn ystod y prosiect hwn, roedd disgyblion yn ymchwilio i gasglu gwybodaeth, yn mewnbynnu gwybodaeth allweddol i gronfa ddata bwrpasol ac yn defnyddio’r wybodaeth i ddidoli a dadansoddi data yn effeithiol.Mae’r dull hwn yn hynod lwyddiannus wrth ddatblygu ystod eang o fedrau disgyblion. Yn ogystal â chryfhau eu medrau digidol, mae’r disgyblion yn derbyn cyfleoedd cyfoethog i wella eu llythrennedd a’u rhifedd, ac yn meithrin eu dealltwriaeth o ddinasyddiaeth fyd-eang. O ganlyniad, mae disgyblion yn gwerthfawrogi bod eu dysgu yn berthnasol i’r byd go iawn ac yn dangos lefelau uchel o frwdfrydedd ac ymrwymiad.