Casglu barn disgyblion
Ceir ystod o gyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion fynegi eu barn ar faterion sy’n ymwneud â lles mewn modd agored a gonest. Er enghraifft, mae’r system ‘Fy Llais’ yn cynnig llwyfan diogel, ac os dymunir, dienw, i ddisgyblion rannu safbwyntiau a chodi pryderon. Yn ychwanegol mae’r drefn ‘Sgwrs am Les’ yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddylanwadu ar y ddarpariaeth. Caiff y wybodaeth a gesglir ei dadansoddi a’i hystyried yn ofalus gan staff. O ganlyniad, mae disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn gwrando arnynt ac yn ymateb yn briodol i’w hanghenion. Mae hyn wedi cyfrannu at ddatblygu diwylliant agored a chefnogol. Mae parodrwydd yr ysgol i wrando yn cryfhau ymdeimlad disgyblion o gael eu clywed ac yn atgyfnerthu’r ethos cadarn o ddiogelu sy’n treiddio ar draws yr ysgol.