Addysgu effeithiol sy’n hyrwyddo annibyniaeth disgyblion
Spotlight
Mae staff yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gyflawni eu gweithgareddau yn annibynnol. Mae hyn yn cael effaith cadarnhaol ar fedrau’r disgyblion wrth iddynt gydweithio a datblygu eu syniadau ar y cyd. Mae dilyniant yn natblygiad disgyblion i ddysgu’n annibynnol o oedran ifanc yn gryfder. Mae disgyblion yn dewis lefel her y gweithgareddau’r hyderus gan esbonio rheswm dros eu penderfyniad yn aeddfed. Maent yn dyfalbarhau ac yn chwilio am ddull arall i lwyddo pan fyddant yn wynebu anawsterau. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf yn gwneud cynnydd cadarn wrth ddatblygu eu medrau.