Addysg yn yr awyr agored yn llesol i ddisgyblion
Spotlight
Fel rhan o ddatblygiadau cwricwlaidd, mae staff a disgyblion wedi datblygu ardal allanol eang sy’n caniatáu dysgu yn yr awyr agored a hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles emosiynol. Mae’r ddarpariaeth yn ‘Natur’ yn caniatáu i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac ychydig o ddisgyblion eraill ddatblygu medrau ymarferol megis plannu, coginio awyr agored a gofalu am ieir a geifr. Cânt ddatblygu eu dealltwriaeth o ffermio cynaliadwy drwy gyfleoedd dysgu gwerthfawr fel creu creision afal neu sudd. Mae disgyblion yn tyfu amrywiaeth o gynnyrch a’i werthu yn lleol neu ei ddefnyddio mewn gwersi iechyd a lles coginio.