Sicrhau cyflawniad y cwricwlwm dros gyfnod
Mae athrawon yn trefnu themâu ysgol gyfan sy’n seiliedig ar un prif yrrwr, sef un o’r meysydd dysgu a phrofiad a dau is-yrrwr, sef dau faes dysgu a phrofiad arall bob tymor. Er enghraifft, mae’r thema ‘Gwrthdaro a Datrysiad’ yn seiliedig ar y dyniaethau fel prif yrrwr, a gwyddoniaeth a thechnoleg a’r celfyddydau mynegiannol fel is-yrwyr. Trwy amrywio’r rhain, maent yn sicrhau bod pob maes yn derbyn y sylw priodol dros ddwy flynedd.yn golygu