Ehangu gorwelion disgyblion drwy brofiadau mentergarwch ystyrlon
This spotlight is currently only available in WelshTrwy ystod eang o weithgareddau entrepreneuraidd a strategaethau ariannol creadigol, fel cynllunio busnesau, datblygu a gwerthu cynhyrchion mewn siopau lleol a rheoli cynlluniau cynilo yn yr ysgol, mae disgyblion yn datblygu medrau menter a rheoli arian yn fedrus.Yn rhan o’r gwaith hwn, mae disgyblion yn cydweithio’n ddiwyd ag arweinwyr i nodi blaenoriaethau cytûn ar gyfer gwella, sy’n cynnwys hyrwyddo presenoldeb disgyblion a datblygu darllen gartref. Trwy fentrau creadigol fel casglu talebau ‘ELWOS’ yn wythnosol, mae disgyblion yn gwneud penderfyniadau ystyrlon ynghylch gwario yn siop yr ysgol neu fuddsoddi eu cynilion yn y banc. Mae hyn yn dechrau cyfrannu’n gadarn at feithrin mwynhad disgyblion o ddarllen ac at gynnal lefelau prydlondeb a phresenoldeb cyson uchel dros amser. Mae’r profiadau gwerth chweil hyn yn ehangu dealltwriaeth disgyblion o fyd busnes ac economi’r ardal leol yn effeithiol, gan gyfrannu’n llwyddiannus at godi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.