Ehangu gorwelion disgyblion drwy brofiadau mentergarwch ystyrlon
This spotlight is currently only available in WelshTrwy ystod eang o weithgareddau entrepreneuraidd a strategaethau ariannol creadigol, fel cynllunio busnesau, datblygu a gwerthu cynhyrchion mewn siopau lleol a rheoli cynlluniau cynilo yn yr ysgol, mae disgyblion yn datblygu medrau menter a rheoli arian yn fedrus.Fel rhan o’r gwaith hwn, mae disgyblion yn cydweithio’n ddiwyd ag arweinwyr i nodi blaenoriaethau cytûn ar gyfer gwella, sy’n cynnwys datblygu darllen gartref. Trwy fentrau creadigol fel casglu talebau ‘gwerfylau’ ac arian yn wythnosol, mae disgyblion yn gwneud penderfyniadau ystyrlon ynghylch gwario yn siop yr ysgol, mewn sefydliadau yn lleol neu fuddsoddi eu cynilion yn y banc. Mae hyn yn dechrau cyfrannu’n gadarn at feithrin mwynhad disgyblion o ddarllen o oedran cynnar. Mae’r profiadau gwerth chweil hyn yn ehangu dealltwriaeth disgyblion o fyd busnes ac economi’r ardal leol yn effeithiol, gan gyfrannu’n llwyddiannus at godi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.