Effaith cadarnhaol dysgu proffesiynol ar ansawdd addysgu a chynnydd disgyblion - Estyn

Effaith cadarnhaol dysgu proffesiynol ar ansawdd addysgu a chynnydd disgyblion

Spotlight

Mae arweinwyr yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar gael i staff sydd wedi’u cynllunio’n ofalus i adlewyrchu blaenoriaethau gwella’r ysgolion yn ogystal â dyheadau datblygiadol staff unigol. O ganlyniad, mae athrawon yn elwa o hyfforddiant dyfnach a mwy pwrpasol sy’n meithrin eu dealltwriaeth o ddulliau addysgu effeithiol, cyflwyno y cwricwlwm ac arferion asesu cadarn.Mae’r ffocws cryf hwn ar ddatblygu staff yn arwain at welliannau mesuradwy mewn ansawdd yr addysgu ar draws y ffederasiwn. Trwy’r cyfleoedd buddiol hyn, mae athrawon yn defnyddio eu gwybodaeth yn hyderus a chyson i feithrin dyfnder yn y dysgu, ac mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at gynnydd cryf ym medrau bron bob disgybl, gan gynnwys y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a’r rhai o aelwydydd incŵm isel.