Ciplun: Effaith cadarnhaol dysgu proffesiynol ar ansawdd addysgu a chynnydd disgyblion - Estyn

Ciplun: Effaith cadarnhaol dysgu proffesiynol ar ansawdd addysgu a chynnydd disgyblion

Spotlight

Mae arweinwyr yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar gael i staff sydd wedi’u cynllunio’n ofalus i adlewyrchu blaenoriaethau gwella’r ysgolion yn ogystal â dyheadau datblygiadol unigol. O ganlyniad, mae athrawon yn elwa o hyfforddiant dyfnach a mwy pwrpasol sy’n meithrin eu dealltwriaeth o ddulliau addysgu effeithiol, y cwricwlwm ac arferion asesu cadarn.Mae’r ffocws cryf hwn ar ddatblygu staff yn arwain at welliannau mesuradwy mewn ansawdd yr addysgu ar draws y ffederasiwn. Mae athrawon yn defnyddio eu gwybodaeth newydd yn hyderus a chyson i feithrin dyfnder dysgu, ac mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at gynnydd cryf bron bob disgybl.