Ciplun: defnyddio cysylltiadau pwrpasol gyda byd gwaith i ysgogi profiadau dysgu cyfoethog
Spotlight
Mae cysylltiadau effeithiol gyda chwmni siocled lleol yn darparu sbardun cyfoethog i’r disgyblion wrth iddynt gael yr her o lunio busnes siocled eu hunain. Maent yn cydweithio’n frwdfrydig i feithrin sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith gan bennu eu meini prawf llwyddiant yn lled annibynnol. Mae’r sbardun yn galluogi’r disgyblion i ymdrin â gwahanol wybodaeth, datrys problemau a gweithio’n annibynnol yn hynod effeithiol.Mae’r disgyblion yn cyfoethogi’r cysylltiadau cymunedol drwy wahodd rhieni i’r ysgol i brofi eu cynnyrch ac i alluogi’r disgyblion i gyfathrebu â chynulleidfa go iawn. Mae‘r rhieni yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd hyn ac yn ymfalchïo yng nghynnydd eu disgyblion wrth iddynt ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol.