Cefnogi lles staff - Estyn

Cefnogi lles staff

Spotlight

Mae’r llywodraethwyr yn ystyried llwyth gwaith yr holl staff, gan gynnwys y pennaeth, yn llwyddiannus. Maent yn sicrhau bod materion lles staff ar agenda bob cyfarfod llywodraethol. Er enghraifft, maent wedi sefydlu diwylliant ble mae trafodaethau agored am les a phwysau gwaith staff yn arwain at ddealltwriaeth gytûn o beth sy’n dderbyniol ac yn ddisgwyliedig ohonynt fel rhan o’u dyletswyddau dyddiol yn yr ysgol.