Datblygu a gwreiddio medrau darllen disgyblion - Estyn

Datblygu a gwreiddio medrau darllen disgyblion

Spotlight

Yn dilyn dadansoddiadau profion darllen ac arfarniadau gan staff, cafodd pob aelod o staff ddatblygiad proffesiynol pwrpasol yn ymwneud â datblygu ymyraethau darllen a strategaethau darllen cyflym. Buddsoddwyd mewn llyfrau a thestunau Cymreig pwrpasol, o safon uchel i ddenu a thanio mwynhad darllen disgyblion. Ar draws yr ysgol, etholwyd llysgenhadon darllen i arwain strategaethau, fel y sesiwn darllen ysgol gyfan. Mae bron bob dosbarth yn cynnwys corneli darllen deniadol a modern ac mae staff yn cynllunio sesiynau dysgu bwriadus sy’n ymgorffori darllen, ac uwch fedrau darllen yn wythnosol. O ganlyniad, mae diwylliant cryf o ddarllen yn bodoli ar draws yr ysgol, ac mae bron bob disgybl yn gwneud cynnydd arbennig yn eu medrau darllen.