Datblygu annibyniaeth disgyblion - Estyn

Datblygu annibyniaeth disgyblion

Spotlight

Trwy gynllunio profiadau ysgogol ac adeiladol i ddisgyblion, mae staff yn ymddiried ynddynt o oedran cynnar i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain. Mae athrawon yn olrhain cynnydd disgyblion yn fwriadus sy’n eu galluogi i ddarparu gweithgareddau uchelgeisiol ar eu cyfer. Trwy hyn, mae disgyblion yn meithrin eu medrau yn hyderus gan wybod bod ymddiriedaeth staff yn eu galluogi i ddatblygu’n ddysgwyr hyderus ac annibynnol.