Cefnogi lles disgyblion a’u teuluoedd - Estyn

Cefnogi lles disgyblion a’u teuluoedd

Spotlight

Mae’r arweinwyr yn gwerthfawrogi teuluoedd yr ysgol fel partneriaid allweddol gan gydnabod effaith cartref cefnogol ar les a dysgu disgyblion. Maent yn gwneud defnydd hynod effeithiol o’r swyddog ymgysylltu teulu sy’n cynnig dewislen bwrpasol o weithdai wythnosol i gefnogi rhieni. Trwy sesiynau am sut i sefydlu patrymau cwsg, er enghraifft, caiff effaith gadarnhaol ar brydlondeb y disgyblion ac ar lefelau presenoldeb. Yn ogystal, mae cynllun bwriadus sy’n cefnogi aelodau agos o’r teulu sydd ddim yn y cartref am gyfnod penodol yn effeithiol iawn. O ganlyniad, mae rhieni a gofalwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, heb ragfarn ac, mae’r gefnogaeth yn sicrhau bod y disgyblion yn fwy sefydlog, hapus ac yn barod i ddysgu.