Sicrhau mynediad at brofiadau addysgol i deuluoedd sy’n profi effaith tlodi - Estyn

Sicrhau mynediad at brofiadau addysgol i deuluoedd sy’n profi effaith tlodi

Spotlight

Mae arweinwyr wedi sefydlu’r Tîm Lles Emosiynol a Theuluol sy’n cynnig cefnogaeth bwrpasol a sensitif i deuluoedd. Mae’r staff wedi meithrin perthnasoedd clos gyda rhieni a’r disgyblion ac maent yn adnabod anghenion teuluoedd yn dda. Maent yn cynnig darpariaeth wedi ei deilwra gan gynnwys cefnogaeth emosiynol a threfnu mynediad at wasanaethau arbenigol fel cyngor ar dai a chyllidebu. Mae’r tîm yn trefnu gwasanaeth casglu a chyfnewid sy’n cynnig gwisg ysgol am ddim i deuluoedd sydd ei angen gan gynnwys y disgyblion sy’n trosglwyddo i’r ysgol uwchradd. Defnyddir arian grantiau’n ddoeth ar gyfer sicrhau nad yw cost yn rhwystro disgyblion i fynychu ymweliadau addysgol oddi ar y safle.