Ffordd Rhydywaun
Mae staff yr ysgol yn llwyddo i gynnal lefelau uchel o ymgysylltiad ac agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu gan bron bob un disgybl. Elfen allweddol o’r llwyddiant hwn yw datblygiad y ‘côd ymddygiad’ a’r ‘normau ac arferion’ dan un weledigaeth glir, sef ‘Ffordd Rhydywaun’. Trwy gynnwys yr holl randdeiliaid, mae’r gwerthoedd cytûn yn glir ac yn cael eu perchnogi gan bawb. Gwelir effaith egwyddorion megis parchu’r Gymraeg, parchu eu hunain, parchu ei gilydd, parchu eu dysgu i greu cymuned lwyddiannus yn holl agweddau o waith yr ysgol. Er enghraifft, mae athrawon yn plethu’r ‘normau ac arferion’ i’w gwersi’n effeithiol er mwyn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion arddangos yr egwyddorion yn eu gwaith. Yn gyson, mae disgyblion a staff yn arddel y disgwyliadau hyn yn eu dosbarthiadau a thu hwnt sydd yn cyfrannu’n sylweddol at yr awyrgylch gadarnhaol o gwmpas yr ysgol. Mae ‘Ffordd Rhydywaun’ yn gosod sylfaen gref i staff ysgogi disgyblion ac mae system ganmol yr ysgol wedi’i seilio ar y weledigaeth. Mae’r egwyddorion yn cynnig pwrpas i ddisgyblion anelu’n uchel a chyflawni hyd orau eu gallu.