Grymuso medrau arwain staff i yrru gwelliannau parhaus mewn sefydliad sy’n hunan-wella - Estyn

Grymuso medrau arwain staff i yrru gwelliannau parhaus mewn sefydliad sy’n hunan-wella

Spotlight

Trwy ddatblygu gweithdrefnau arfarnu trylwyr a miniog, mae arweinwyr yn adnabod cryfderau’r ysgol a’i meysydd datblygu yn fanwl gywir. Mae prosesau arfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant wedi aeddfedu dros cyfnod byr o amser, ond yn sail gadarn i welliannau cynaliadwy mewn dysgu ac addysgu. Mae systemau arweinyddiaeth ddosranedig hynod effeithiol wedi’u gwreiddio ar draws yr ysgol, gyda rolau arwain clir wedi’u dyrannu’n strategol yn unol â blaenoriaethau gwella. Mae arweinwyr yn meithrin diwylliant cadarn o hunan-fyfyrio proffesiynol ymhlith staff mewn cyfarfodydd datblygu proffesiynol wythnosol, sy’n eu galluogi i arwain gwelliant o fewn eu meysydd cyfrifoldeb. Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at welliannau cynaliadwy mewn addysgu, profiadau dysgu a deilliannau disgyblion dros gyfnod.