Cefnogi lles disgyblion
Spotlight
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi lles y disgyblion yn gryfder. Mae staff yn darparu gofal ac amrywiaeth o gyfleoedd gwerthfawr sy’n cefnogi’r disgyblion i fwynhau’r ysgol a gwneud cynnydd da yn eu medrau personol a chymdeithasol ynghyd â’u medrau dysgu. Mae darpariaethau cartrefol y Cwtsh a’r Nyth yn cynnig cefnogaeth ddyddiol i ddisgyblion gyda’u lles ac iechyd emosiynol. Mae arweinwyr wedi datblygu ymagwedd ‘pum pwrpas lles’ sydd yn cynnig cefnogaeth fuddiol i ddisgyblion wrth gyrraedd yr ysgol ac yn ystod amser cinio, yn ogystal â chefnogaeth hynod o werthfawr i rieni. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn meithrin hunanddisgyblaeth ac agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu.