Cefnogi dysgu proffesiynol staff
Spotlight
Mae arweinwyr wedi sefydlu diwylliant o gynllunio a darparu dysgu proffesiynol gwerthfawr sy’n cyd-fynd yn agos â’u blaenoriaethau datblygu ysgol. Maent yn gwneud defnydd hynod o effeithiol o’r medrau eang sydd gan staff a phartneriaid allanol i ddarparu cyfleoedd, hyfforddiant a chymorth cyson o ansawdd uchel. Mae cefnogaeth fuddiol i staff ymchwilio, a thrwy hyn, maent yn arloesi trwy gyflwyno addysgeg newydd sy’n cael effaith gadarnhaol ar gynnydd a lles disgyblion. Er enghraifft, drwy ymchwil a dysgu proffesiynol, mae staff wedi datblygu continwwm chwarae ysgol gyfan sy’n darparu cyfleoedd bwriadus i ddisgyblion ddatblygu eu medrau creadigol, meddwl ac i fod yn ddysgwyr annibynnol.