Llais y disgybl - Estyn

Llais y disgybl

Spotlight

Mae rôl y senedd yn gryfder eithriadol yn yr ysgol. Mae aelodau’r senedd yn ymfalchïo yn y modd allweddol y mae eu llais yn dylanwadu ar benderfyniadau, megis wrth greu ardaloedd cysgodol a thawel ar gyfer disgyblion amser egwyl, darparu siop ffrwythau ac offer iddynt chwarae ar y buarth. Yn ogystal, maent yn cyfrannu at werthuso effeithiolrwydd cynlluniau gwaith neu themâu dysgu, gyda barn y disgyblion yn cael ystyriaeth gan staff. Caiff disgyblion y fforwm dysgu ac addysgu fewnbwn i’r cwricwlwm wrth graffu ar lyfrau gydag athrawon, a gwneud awgrymiadau. Yn ddiweddar, cyflwynwyd cyrsiau Amaethyddiaeth Lefel 2 a Thrin Gwallt Lefel 3 o ganlyniad i geisiadau gan ddisgyblion. Mae aelodau’r senedd yn chwarae rhan bwysig wrth wneud penodiadau ar gyfer swyddi yn yr ysgol, gan gyfrannu at baneli cyfweld ac arsylwi gwersi.Mae gwaith y fforymau a’r senedd yn cael ei rannu trwy gylchlythyr rheolaidd a safonol ac mae’r gwaith yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ganmol gan yr holl randdeiliaid.