Darparu cwricwlwm Iechyd a Lles adlewyrchol a phwrpasol
Spotlight
Mae’r ddarpariaeth Iechyd a Lles yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddylanwadu’n effeithiol ar eu dysgu. Mae arweinwyr yn gwerthuso’r ystod eang o wybodaeth sydd ar gael yn drylwyr i sicrhau cwricwlwm Iechyd a Lles sydd yn adlewyrchol, amserol ac yn perthyn i Ysgol Bro Teifi. Mae rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau amrywiol yn cael ei gyflwyno mewn dull sy’n addas i oedran. Gweir defnydd pwrpasol o asiantaethau allanol yn amserol a chyflwynir sesiynau mewnol ar faterion sy’n codi fel troseddau, iechyd meddwl a pherthnasoedd iach. Mae hyn yn sicrhau bod ymwybyddiaeth disgyblion o ymddygiad parchus, lles meddyliol a sut i wneud dewisiadau doeth yn cael ei feithrin yn bwrpasol..